Cael gafael ar yr adnodd hwn yn Saesneg | Read this page in English
Nid yw’n Gariad
Adnoddau addysgu am berthnasoedd cadarnhaol
Mae Nid yw’n Gariad yn ymdrin â’r themâu sydd ynghlwm â pherthnasoedd iach a pherthnasoedd sydd ddim yn iach, gan gynnwys ymddygiad sy’n ymwneud â cham-drin mewn perthnasoedd rhyngbersonol, rhwng cyfoedion ac o fewn teuluoedd.
Mae'r adnoddau'n cynnwys tair ffilm a chynlluniau gwersi cysylltiedig sy'n dilyn pedwar cymeriad sy'n profi cam-drin domestig mewn teuluoedd, mewn cyfeillgarwch ac mewn perthnasoedd agos â phartneriaid. Darperir dogfen mapio cwricwlwm hefyd.
Mae'r adnoddau'n cefnogi pobl ifanc 11-14 oed i archwilio effaith y penderfyniadau y mae'r cymeriadau'n eu gwneud ac ymchwilio i gynghreiriaid posibl ac eiliadau ymyrryd, ar yr un pryd ag archwilio'r cwestiynau ynghylch beth yw perthynas iach a pherthynas nad yw’n un iach. Mae'r adnoddau'n ceisio atal ymddygiad rhywiol niweidiol a rheolaeth drwy orfodaeth a allai arwain at drais a cham-drin domestig gan oedolion mewn perthnasoedd agos â phartneriaid.
Gwyliwch ragflas o’r ffilm
Y ffilmiau
Mae tair ffilm fer y dylid eu gwylio yn y drefn y maent yn ymddangos isod gan fod ganddynt straeon sy'n cydgysylltu â'i gilydd, er eu bod yn gweithio'n annibynnol ar ei gilydd.
Cynlluniau gwersi a gweithgareddau ategol
Mae pob cynllun gwers yn cynnwys:
- amcanion dysgu
- nodiadau i athrawon
- gweithgareddau.
Mae map y cwricwlwm yn nodi sut mae pob gwers yn cyfateb i feysydd cwricwlwm perthnasol.
Amseroedd a sesiynau
Gellir cyflwyno pob ffilm a'r gweithgareddau ategol mewn cyfnod o 50 munud i awr.
Rydym yn argymell o leiaf pedair sesiwn ar gyfer yr adnodd cyfan.
Awgrymiadau ar gyflwyno'r sesiynau
- Ymgyfarwyddwch â chynnwys y ffilm cyn ei dangos i bobl ifanc a byddwch yn ymwybodol y gallai'r cynnwys fod yn sbardun i unrhyw un y mae’r materion a godir yn y ffilmiau wedi effeithio arnynt.
- Cyn gwylio pob ffilm, gofynnwch i'r bobl ifanc gadw llygad am unrhyw risgiau a phryderon am y cymeriad hwnnw.
- Mae'r ffilmiau'n gweithio orau pan gânt eu gwylio ar sgrin fawr mewn amgylchiadau tywyll.
- Ailadroddwch y neges nad yw'r dioddefwr byth yn gyfrifol nac ar fai am y cam-drin y mae'n ei brofi.
- Sicrhewch bod pawb yn gwybod lle gallan nhw geisio cymorth os oes angen iddyn nhw siarad â rhywun am unrhyw faterion sy'n cael eu codi yn y ffilmiau, neu unrhyw beth arall. Gallai hyn fod yn berson dynodedig yn eich ysgol, yn oedolyn diogel neu Childline.
- Rydym yn awgrymu, ar ôl trafodaeth gychwynnol gyda'r grŵp cyfan am y materion a'r pryderon y maent wedi'u nodi, y dylid eu rhannu'n grwpiau llai i gymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu.
Mae Lucy yn 14 oed ac yn byw yn East Marsh, Grimsby gyda'i rhieni sydd wedi gwahanu'n ddiweddar. Mae hi newydd gael ei symud i'r set isaf yn yr ysgol ac mae hi'n gweld eisiau ei ffrindiau.
Gwylio fideo Lucy
Cefndir stori Lucy
Cafodd mam Lucy ei geni a'i magu yn Grimsby ac mae wedi cael swydd yn Asda yn ddiweddar. Mae tad Lucy yn dod o Wlad Pwyl a daeth i Grimsby yn 2005. Teimlai fod y DU yn cynnig rhagolygon gwaith a bod un o'i ffrindiau wedi symud i Grimsby a bod bywyd wedi troi allan yn dda iddo. I ddechrau, bu tad Lucy yn gweithio yn y dociau ac yn fwy diweddar bu'n gweithio yn un o'r ffatrïoedd pacio pysgod cyn colli ei swydd.
Collodd rhieni Lucy ill dau eu swyddi oherwydd toriadau staff yn dilyn Brexit. Maen nhw wedi gwahanu'n ddiweddar ar ôl anawsterau emosiynol cynyddol. Aeth ei thad yn isel ei hysbryd, yn bell a theimlai'n ddiwerth. Roedd yn teimlo fwyfwy nad y DU oedd y lle iddo ar ôl Brexit, a'i fod yn dymuno dychwelyd i Wlad Pwyl. Roedd eisiau i Lucy, ei brawd a'i mam fynd gydag ef, ond doedd mam Lucy ddim eisiau gwneud hynny gan fod ei theulu estynedig i gyd yn byw yn Grimsby a doedd hi ddim eisiau i'r teulu fod ar wahân.
Ers i'w thad adael a dychwelyd adref i Wlad Pwyl, mae Lucy wedi mynd yn fwyfwy encilgar ac mae'n teimlo bod ei byd yn chwalu wrth iddi weld colli ei thad a cholli bod yn deulu i gyd gyda'i gilydd. Mae Lucy'n hoffi'r ysgol ond yn ddiweddar mae hi wedi cael diagnosis o ddyslecsia ac mae hi wedi cael ei rhoi yn y set isaf, i ffwrdd oddi wrth ei ffrindiau. Mae Lucy wedi dechrau profi gorbryder gan ei bod hi'n teimlo nad yw hi'n ffitio i mewn gyda'i chyd-ddisgyblion newydd ac mae hi wedi dechrau colli'r ysgol. Mae mam Lucy yn gadael iddi aros gartref o'r ysgol gan ei bod yn poeni ei bod yn mynd yn isel ei hysbryd ac nad yw hi eisiau ei cholli'n emosiynol fel y bu iddi golli ei gŵr. Nid yw mam Lucy yn teimlo mai aros ymlaen yn yr ysgol ar ôl TGAU yw'r peth iawn i Lucy ac mae'n teimlo mai ennill cyflog yn hytrach nag anelu at fynd i'r coleg fyddai orau iddi.
Yn ddiweddar, mae Lucy wedi bod yn sylwi ar grŵp o ferched hŷn, yn treulio amser ym Mharc Grant Thorold, yn chwarae cerddoriaeth, yn cael hwyl ac yn galw ar fechgyn. Mae Lucy'n cael ei swyno fwyfwy ganddynt. Nid yw Lucy erioed wedi gweld merched yn ymddwyn mor hyderus o'r blaen - er y byddai'n gas ganddi pe bai unrhyw un byth yn galw arni hi felly, mae Lucy yn cael ei denu atyn nhw. Mae Lucy'n adnabod un o'r merched o’r clwb cymunedol Pwylaidd ond dydy hi ddim wedi'i gweld hi ers blynyddoedd. Mae Jo ychydig flynyddoedd yn hŷn na Lucy, roedd hi'n arfer chwarae ar y peiriannau neu dreulio amser y tu allan i'r clwb gyda'r holl fechgyn poblogaidd. Er syndod i Lucy, mae Jo yn ei hadnabod ac er gwaethaf eu bwlch oedran maen nhw'n creu cyfeillgarwch agos. Mae Lucy'n dechrau treulio amser gyda Jo a'r merched eraill yn y parc, weithiau'n mynd yn ôl i fflat Jo ar gyrion y dref ac aros yno dros nos. Mae Lucy yn teimlo ei bod yn lesbiad ond nid yw wedi datgelu hynny i unrhyw un o'i theulu na'i ffrindiau.
Mae Liam yn 15 oed ac yn byw gyda'i fam a'i frawd iau mewn fflat dwy ystafell wely ar y llawr cyntaf uwchben siop ar Stryd Eleanor sydd y tu cefn i Stryd Freeman - y brif stryd fawr yn Grimsby. Mae'r fflat yn swnllyd yn y nos. Mae'n dal yn yr ysgol ac yn astudio ar gyfer ei TGAU ac mae wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed.
Gwylio fideo Liam
Cefndir stori Liam
Bu farw tad Liam rai blynyddoedd yn ôl. Mae Liam yn gweld ei eisiau, yn enwedig pan fyddai’n dod i'w wylio'n chwarae pêl-droed.
Mae Liam yn cael pyliau o ddicter gartref ac yn yr ysgol. Mae'n teimlo'n rhwystredig gan ei fod yn teimlo na fydd byth yn gallu gadael Grimsby a dod yn bêl-droediwr proffesiynol. Mae ganddo hyfforddwr yn y clwb pêl-droed, Chris, sy'n gallu gweld ei dalent ac sy'n credu y gall lwyddo ym myd pêl-droed, ond mai'r unig beth sy'n ei atal yw ei ddicter a'r ffaith ei fod yn ymladd o hyd yn yr ysgol. Mae Chris yn ceisio siarad â Liam am hyn a'i helpu i ddod o hyd i ffyrdd o dawelu ei ddicter a rheoli ei emosiynau er mwyn iddo allu ei gael i lefel nesaf y clwb pêl-droed. Mae Chris yn obeithiol am ddyfodol Liam.
Mae Liam yn treulio amser gyda'i ffrindiau o'r tîm pêl-droed draw yn y caffi cymunedol lleol. Mae'n hoffi merch yn yr ysgol o'r enw Yasmin. Mae Yasmin yn eithaf hoff o Liam hefyd, ond nid yw'r ffaith ei fod yn ymladd o hyd yn creu argraff arni, ac nid yw hi’n cymryd sylw ohono pan fydd yn gwneud hynny. Mae Yasmin yn gwylio'r gemau pêl-droed lleol gan fod ei brawd yn chwarae yn nhîm Liam ac mae hi'n gallu gweld sgiliau a thalentau Liam ar y cae pêl-droed.
Nid yw Liam yn gwybod sut i siarad ag Yasmin ac mae'n teimlo'n rhwystredig nad yw'n gallu dod o hyd i'r hyder i gysylltu â hi. Mae'n gwybod nad yw ymladd gyda bechgyn eraill yn gwneud argraff dda ar Yasmin ond mae'n ei chael yn anodd newid ei ymddygiad.
Mae Liam yn troi llawer o'i ddicter a'i rwystredigaeth ar ei fam a'i frawd iau a gall hyn droi'n ymddygiad ymosodol geiriol a chorfforol. Mae ei fam yn gweithio mewn tair swydd yn ystod yr wythnos. Mae'n teimlo ei bod yn gorweithio ac yn cael rhy ychydig o gyflog ac na fydd y sefyllfa byth yn newid iddi hi a'i theulu. Mae wedi bod yn anodd yn emosiynol ac yn ariannol ers i'w gŵr farw. Mae un o'i swyddi am dair noson yr wythnos ac mae Liam yn gofalu am ei frawd iau tra mae hi yn y gwaith.
Mae Gem yn 15 oed ac yn byw ger Parc Grant Thorold yn East Marsh. Mae hi yn yr ysgol yn astudio ar gyfer ei harholiadau TGAU. Mae hi'n alluog ac eisiau gwneud yn dda yn yr ysgol. Mae Gem wedi bod yn canlyn Kian sy'n 17 oed ac yn byw yn Duke of York Gardens yn West Marsh. Gadawodd Kian yr ysgol yn 16 oed.
Gwylio fideo Gem a Kian
Cefndir stori Gem
Yn y gorffennol, mae Gem wedi profi cam-drin domestig yn ei chartref rhwng ei mam a'i thad. Mae ei mam wedi cael sawl partner ers iddi hi a thad Gem wahanu, ond mae hi bellach mewn perthynas hapus a chyson â Dan.
Mae ei thad a'i deulu yn adnabyddus iawn yn yr ardal hon. Mae hi wedi gweld ei thad yn achlysurol dros y blynyddoedd ers iddo adael. Pan fydd yn cyrraedd yr ardal yn ddirybudd, bydd yn dod i'w gweld.
Mae Gem yn agos at ei mam a phartner newydd ei mam, Dan, y mae Gem wir yn ei hoffi. Mae'n garedig ac ni fyddai'n ei brifo hi na'i mam. Mae Gem wir eisiau i'w perthynas nhw weithio gan fod ei mam yn llawer hapusach, a hithau hefyd. Er bod gan Gem atgofion am ddynion yn trin ei mam yn wael, mae hi'n teimlo'n fwy gobeithiol nawr ar gyfer y dyfodol.
Mae Gem yn aml yn crwydro'r strydoedd, yn treulio amser gyda ffrindiau, yn mynd i bartïon. Dechreuodd wneud hyn i ddianc rhag bod yn dyst i’r trais gartref ond ni ddywedodd wrth bobl beth oedd yn digwydd, gan ei gadw'n gyfrinach am amser hir. Mae'r profiad o fod yn dyst i gam-drin domestig yn parhau gyda Gem o hyd. Mae'n ceisio cymryd arni ei bod yn hŷn na'i hoedran ac mae gwasanaethau lleol yn gwybod amdani oherwydd hanes cam-drin domestig yn y teulu.
Mae Gem yn gweithio ar nos Wener a nos Sadwrn yn y siop sglodion leol. Mae hi'n gweithio’n galed. Mae'r siop pysgod a sglodion ar lan y môr felly mae'n aml yn brysur. Mae pawb yn ei hadnabod ac mae hi'n gyfeillgar iawn gyda chwsmeriaid. Mae hi'n hoffi gweithio yno gan ei fod yn rhoi arian iddi, a physgod a sglodion am ddim, ac mae hi'n clywed yr holl hel clecs lleol.
Nid yw Gem ond newydd ddechrau canlyn Kian. Mae Kian yn hŷn ac mae ganddo gar. Mae'n gweithio i garej ac yn hyfforddi i fod yn fecanig. Cyfarfu Kian â Gem am y tro cyntaf pan ddaeth i mewn i'r siop sglodion a gofyn iddi fynd gydag ef i barti yn East Marsh. Mae Gem yn meddwl llawer am Kian ac yn hoffi'r sylw mae'n ei roi iddi - mae hi'n teimlo bod ei hangen a'i heisiau hi arno.
Cefndir stori Kian
Mae Kian yn brentis mecanig sy'n gweithio mewn garej. Enw ei reolwr yw Greg. Mae Kian yn edmygu Greg ac yn awyddus i symud ymlaen yn y gwaith a chael dyrchafiad yn y dyfodol gan fod arian a safle yn bwysig iddo. Gall Greg weld potensial Kian i wneud yn dda yn y gwaith ond mae'n poeni am ei agwedd y tu allan i'r gwaith.
Mae Kian newydd basio ei brawf gyrru'n ddiweddar ac mae'n defnyddio car ei dad pan mae'n gallu.
Mae'n byw gyda'i dad. Gadawodd ei fam ychydig amser yn ôl ac mae'n dal yn ddig iawn ond mae'n deall na allai ei fam barhau i fyw yno gan fod perthynas ei fam a'i dad wedi chwalu. Mae'n teimlo bod ei fam wedi cefnu arno.
Mae ei dad yn gweithio oriau hir ac mae ar gontract dim oriau, gan deimlo'r pwysau a ddaw yn sgil hyn. Mae Kian yn dod ymlaen yn dda â'i dad ond pan fydd ei dad dan straen yn y gwaith ac wedi blino, maen nhw'n gallu dadlau.
Mae'n hoffi mynd i bartïon mewn tai yn East Marsh. Mae'n adnabyddus i lawer o bobl ac mae ganddo dipyn o enw. Mae wedi dechrau canlyn Gem; fe wnaethon nhw gwrdd yn y siop sglodion leol ac yna aeth hi i barti gydag ef ychydig fisoedd yn ôl. Mae'n rheoli Gem - o ran beth mae hi'n ei wisgo, gyda phwy mae hi'n siarad, i ble mae hi'n mynd. Mae'n meddwl y dylai hi dalu mwy o sylw iddo. Mae'n monitro beth mae Gem yn ei roi ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn cael ei ffrindiau gwrywaidd i gadw llygad arni ac adrodd yn ôl iddo os yw hi'n cael ei gweld yn siarad ag unrhyw fechgyn eraill. Mae'n hoffi Gem yn fawr ac yn teimlo'n rhwystredig ei bod yn gweithio yn y siop pysgod a sglodion gan y byddai'n hoffi treulio mwy o amser gyda hi ar benwythnos pan nad yw'n gweithio.
Yn y parti diwethaf, aeth Kian a Gem i ffraeo gan ei fod yn teimlo ei bod hi’n edrych ar fachgen arall. Daeth i ben mewn dadl danbaid, ac fe wnaeth ef ei slapio a’i gwthio’n ymosodol allan o'r tŷ lle'r oedd y parti’n cael ei gynnal. Mae Kian yn teimlo nad yw Gem yn deall sut mae ei hymddygiad yn gwneud iddo deimlo.
Mae Greg, rheolwr Kian, wedi clywed yn ddiweddar drwy ei gyfeillgarwch â'r teulu sy'n rhedeg y siop pysgod a sglodion lle mae Gem yn gweithio am Kian yn ei rheoli ac yn ymddwyn yn ymosodol tuag at Gem. Mae Greg wedi dweud wrth Kian nad dyma'r ffordd i drin rhywun a bod angen iddo roi trefn ar ei ymddygiad. Mae Kian yn edmygu Greg ac mae'n teimlo cywilydd ei fod yn gwybod beth sydd wedi bod yn digwydd ond mae'n ei chael hi'n anodd rheoli ei deimladau a'i ymddygiad tuag at Gem.