Ydych chi’n hebryngwr yn y diwydiant adloniant ac eisiau deall yn well eich rôl yn diogelu plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth neu niwed?
Ydych chi’n gweithio yn y diwydiannau adloniant proffesiynol neu amatur ac eisiau gwybod mwy am y gofynion cyfreithiol y mae’n ofynnol i hebryngwyr eu dilyn?
Fel arbenigwyr y DU ar amddiffyn, mae’r NSPCC wedi cynhyrchu cwrs e-ddysgu 60 munud, mewn cydweithrediad â’r Rhwydwaith Cenedlaethol Plant mewn Cyflogaeth ac Adloniant (NNCEE) a’r BBC, sy’n cwmpasu’r canllawiau statudol allweddol y mae angen i hebryngwyr yn y diwydiant adloniant fod yn ymwybodol ohonynt.
Beth fydda i’n ei ddysgu?
Mae plant yn gweld y byd drwy eu dychymyg anhygoel. Mae hyn yn arbennig o wir pan fyddant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch cyffrous, er enghraifft actio mewn cynhyrchiad theatr neu gymryd rhan mewn rhaglen deledu. Ond gall y gweithgareddau cyffrous hyn fod yn beryglus i blant oni fyddant yn cael eu hamddiffyn yn briodol.
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn:
- gwybod cyfreithiau pob gwlad sy’n sail i’ch cyfrifoldebau
- deall sut i adnabod meysydd pryder posibl
- gwybod sut i ymateb i’r pryderon hyn yn y ffordd briodol
- deall sut i adrodd unrhyw bryderon amddiffyn plant i’r rhai sy’n gyfrifol am gymryd camau gweithredu
- deall sut i wneud cofnod o’r hyn rydych wedi’i weld a’i glywed.
Buddiannau’r cwrs
- Ardystiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD).
- Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â’r NNCEE a’r BBC.
- Yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau a chyngor ar arfer gorau.
- Gallwch ei gwblhau ar eich cyflymder eich hun ac yn eich amser eich hun.
- Gallwch hyfforddi unrhyw amser, unrhyw le a chwblhau’r cwrs cymaint o weithiau ag y dymunwch mewn blwyddyn.
- Tystysgrif cyflawni wedi’i phersonoli, y gellir ei lawrlwytho.
- Yn prynu trwyddedau ar ran eich tîm? Mae adroddiadau hawdd i’w lawrlwytho ar gael i ddangos pwy sydd wedi cwblhau’r cwrs.
- Mae’n cynnwys cwisiau rhyngweithiol, senarios ffilm a thasgau adlewyrchol i’ch helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch hyder.
- Ar ôl i chi gwblhau’r cwrs, nid dyma yw’r diwedd. Mae gennym ystod o wybodaeth bellach, hyfforddiant ac adnoddau i’w lawrlwytho i’ch helpu i amddiffyn y plant rydych yn gweithio gyda hwy.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer hebryngwyr sy’n cael eu trwyddedu gan awdurdodau lleol. Gall pobl sy’n gweithio yn y diwydiannau adloniant proffesiynol neu amatur ddilyn y cwrs hefyd (er enghraifft, ysgolion dawns, actio amatur, corau, cwmnïau cynhyrchu rhaglenni teledu a ffilmiau a theatrau proffesiynol) sydd eisiau gwybod mwy am rôl a chyfrifoldebau hebryngwr, y gofynion statudol a’r ffordd orau i amddiffyn plant.
Noder fod y cwrs hwn yn ategu hyfforddiant hebryngwyr ac nid yw, ynddo’i hun, yn achrediad.
Prynwch yn awr